Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Pwmp y Pentref

101-10-pic-Vllage-Pump-sketch-.jpg

Nid oedd cyflenwad dŵr trwy bibellau i'r pentref tan 1893 ar y cynharaf, a dim ond ar ôl hynny y cysylltwyd tai unigol â'r cyflenwad.

Cyn hynny, roedd yn rhaid i bawb ddibynnu ar ddŵr ffynnon, neu o'r gwahanol nentydd hyd y lle. Byddai pwll wedi bod ar fuarthau ffermydd ar gyfer y da byw ac efallai y byddai gan fythynnod danc yn yr iard (neu efallai y byddent wedi casglu dŵr glaw o doeau).

Mae mapiau OS y pentref ar gyfer 1901 yn dangos lleoliadau amrywiol y ffynhonnau. Efallai y gwyddoch chi ymhle roeddent; efallai bod rhai yno o hyd dim ond eu bod wedi'u capio.

Roedd gan lawer o drefi a phentrefi bwmp pentref, yn aml gyda chafn ceffyl ger llaw. Mewn llawer o achosion, byddai’r rhain yn addurnedig iawn mewn haearn bwrw, weithiau gyda chanopi a ffynnon yfed, yn aml ag arysgrif yn rhyw fath o gofeb. Dydyn ni ddim yn gwybod am ddim byd felly yn yr Eglwys Newydd serch hynny.

Swyddog Meddygol Iechyd cyntaf Awdurdod Glanweithdra Undeb Caerdydd oedd Dr FW Granger. Fe'i penodwyd yn 1875 ac ysgrifennodd adroddiadau blynyddol ar amodau iechyd cyffredinol. Nid oeddent yn galonogol iawn ac roedd yn ymwybodol iawn o botensial epidemigau posibl o teiffoid a chlefydau tebyg. Yn y blynyddoedd cynnar bu’n gyfrifol am gau nifer o ffynhonnau anaddas yn yr Eglwys Newydd, a cheisiodd yn daer i gael gwared ar dda byw o fuarthau gerddi cefn. Yn 1883 dwedodd ei fod 'mewn brwydr barhaus â pherchnogion y tai, sy'n aml yn troi at bob math o driciau i'n twyllo i atal eu moch rhag cael eu symud oddi yno'. Roedd gan yr awdurdod glanweithdra bwerau i gael gwared ar y moch, ond nid y tylcau moch!

Yn 1882, adroddodd fod dau bwmp cyhoeddus a ffynhonnau preifat yn gwasanaethu'r Eglwys Newydd.  Dywed Ernest Broad yn ei erthygl adnabyddus ‘Old Whitchurch from End to End’ fod pwmp y pentref ar Heol yr Hen Eglwys ger ysgol y bechgyn.  Tybed pa mor hen oedd hwn, a pha ffurf oedd iddo? A oedd cafn ceffyl yno? Mae'r braslun isod yn dangos sut y gallai pwmp a chafn fod wedi edrych. Gwnaed llawer o'r pympiau hyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan weithgynhyrchwyr haearn bwrw arbenigol yn yr Alban, ac efallai y bu un gennym ni. A oes unrhyw un yn gwybod?

Ac, ymhle roedd yr ail bwmp cyhoeddus y soniodd Dr Granger amdano? Awgrymodd Ernest Broad hefyd yn ei erthygl fod pwmp (cymunedol) gan y bwthyn cyntaf ar Brook Road yng nghefn y tŷ ar gyfer dŵr. Ai dyma'r rhes o fythynnod to gwellt lle safai ffatri Jupps Sweets?

Gan fod y ffatri bellach wedi mynd, ac wedi'i ddisodli gan floc swyddfa, ni allaf ddychmygu bod y pwmp yn dal i fodoli, ond a oes unrhyw un yn gwybod?  Efallai nad dyma'r pwmp y cyfeiriodd Dr Granger ato a bod un arall efallai wedi'i leoli ar Waun Treoda. A oes gan unrhyw un syniadau?