Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Brigâd Dân Yr Eglwys Newydd
Mae'n anodd credu y bu gan Yr Eglwys Newydd ei frigâd dân ei hun. Nid oes unrhyw fanylion ynghylch pryd y'i sefydlwyd ond gwyddom y daeth y frigâd dân allan ar adegau arbennig fel gosgordd er anrhydedd. Pan agorwyd y llyfrgell rydd newydd yn 1904, roedd y dynion tân ac ysblander eu helmedau pres i’w gweld yn amlwg yn yr orymdaith
Mae yna hen ffotograff yn dangos dynion tân y pentref yn eu gwisgoedd, ond yn anffodus, mae hwn wedi mynd ar goll. Os oes gan unrhyw un gopi, byddem wrth ein bodd yn ei weld eto. (WEDI DOD O HYD IDDO!)
I unrhyw un sy'n ei gael hi'n anodd dychmygu ein brigâd leol, meddyliwch yn ôl i raglen blant y BBC - Trumpton a'r criw gwych sef Pugh, Pugh, Barney McGrew, Cuthbert, Dibble a Grub. Yn wahanol i frigâd dân Trumpton, roedd brigâd dân yr Eglwys Newydd oll yn wirfoddolwyr lleol, ac roedd y pwmp dŵr wedi'i osod ar gefn wagen. Doedd dim ceffyl eu hunain ganddynt, felly benthycid ceffyl y cigydd lleol. Cyn y gellid anfon y frigâd dân allan, byddai’n rhaid danfon am y ceffyl!
Ceir llawer o adroddiadau papur newydd am danau domestig ac ar ffermydd, ac yn amlwg darparai’r frigâd wasanaeth rhagorol yn y pentref. Byddai helmau a theisi gwair yn codi’n fflam yn aml.
Dim ond yn 1895 y dechreuwyd gosody prif gyflenwad dŵr ac ni chafodd hyn ei gwblhau tan ar ôl 1903, felly pryd bynnag y galwyd y frigâd allan, roedd yn rhaid iddynt naill ai gario eu dŵr eu hunain ar y wagen dân, neu ei bwmpio o nentydd neu byllau dŵr lleol. Pan gydiodd tân yn yr ysgubor ddegwm ym mis Chwefror 1900, bu'n rhaid i bibellau dŵr y frigâd dân ymestyn dros gryn bellter. Yn wir, cymaint oedd maint y tân yn yr adeilad to gwellt na fu modd achub yr adeilad na'r swm sylweddol o wair y tu mewn iddo. Mae'r erthygl papur newydd yn yr Evening Express ar 7 Chwefror 1900 yn disgrifio'n fanwl y 'Tân yn Sgubor Ddegwm Yr Eglwys Newydd'
Pan brofwyd tân cwbl ddinistriol ar Dyddyn Elm (gerllaw gorsaf betrol bresennol Tesco ar Ffordd y Faenor) ym mis Hydref 1901, llosgwyd pum ceffyl yn fyw yn ogystal â harneisi a gwair wedi ei storio yno.
O'r dechrau’n deg, ymgymerodd y frigâd dân â hyfforddiant, ac yn 1897 adroddwyd bod y gwirfoddolwyr yn 'gwneud cynnydd da' gyda'u dril. Cymaint felly, fel y galwyd cyfarfod plwyf er mwyn cytuno i brynu dillad, gwisgoedd ac offer i ddynion tân. Duw a ŵyr beth roedden nhw'n ei wisgo cyn hynny! Sarjant Williams oedd yn gyfrifol am yr hyfforddiant ac fe gafodd £3 o dâl. Yn ddiweddarach, pleidleisiwyd cyflog o £7 iddo (a gynyddwyd yn ddiweddarach i £9) y flwyddyn fel capten/hyfforddwr. Roedd yr offer newydd yn cynnwys pwmp, safbibell a phibellau
Mewn erthygl yn y Evening Express ar 28 Medi 1903 gallwn ddarllen:
Brynhawn Sadwrn cynhaliwyd yr arolygiad blynyddol o Frigâd Dân yr Eglwys Newydd ar y tir ynghlwm wrth Ysgol Glanynant. Trodd y dynion tân allan yn eu lifrai llawn, ac roeddent dan awdurdod eu capten (Mr MW Davies), a’r is-gapteniaid Hale a Parsons a oedd hefyd yn bresennol
Aed drwy sawl drili yn gwbl foddhaol, a mynegodd y cynghorwyr a oedd yn bresennol eu balchder yn ymddangosiad y dynion, eu deallusrwydd wrth fynd drwy'r gwahanol ymarferiadau a chyflwr a glendid y cyfarpar.
Fodd bynnag, nid oedd popeth yn dda, oherwydd yn 1909, aeth y frigâd ar streic ar ôl chwilio am bencadlys parhaol. Dim ond wedi hyn yr adeiladwyd garej i’r frigâd dân ar Bishops Road (gyda swyddfeydd cyngor plwyf uwch ei ben). Darparwyd gwell cyfarpar i'r frigâd hyd yn oed
Bu'n rhaid iddyn nhw aros tan 1914 cyn i'r cyngor brynu Injan Dân Merryweather coch sgleiniog, yn union fel yr un yn y ffotograff.
Erbyn 1921, holodd y cyngor plwyf a oedd aelodau'r frigâd dân yn mynd yn rhy hen, ac ymddiswyddodd pob un ohonynt! Penderfynodd y cyngor drefnu brigâd â thâl llawn gyda'r capten (Mr Griffiths y cigydd) yn derbyn cyflog blynyddol o £15, a’r dynion tân eraill yn derbyn £3-15 y flwyddyn. Costiai’r cyfan £71-10s bob blwyddyn.
Ond ni pharhaodd hyn, ac nid yn hir ar ôl hynny, gofynnodd y cyngor plwyf i Frigâd Dân Caerdydd wasanaethu'r ardal
Tybed beth ddigwyddodd i injan dân Merryweather 1914? Byddai'n werth ffortiwn heddiw. A oes gan unrhyw un ragor o wybodaeth am ein brigâd dân leol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych?
English
Cymraeg