Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Old Church Road (Welsh needed)
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Aenean commodo ligula eget dolor. Aenean massa.
Cum sociis natoque penatibus et magnis dis parturient montes, nascetur ridiculus mus. Donec quam felis, ultricies nec, pellentesque eu, pretium quis, sem.
Nulla consequat massa quis enim. Donec pede justo, fringilla vel, aliquet nec, vulputate eget, arcu. In enim justo, rhoncus ut, imperdiet a, venenatis vitae, justo.
Walk waymarkers
Capel Ararat
Mae'n debyg mai Ararat yw’r capel hynaf sy’n dal i oroesi yn y pentref. Cafodd ei godi'n wreiddiol gan Fedyddwyr lleol yn 1824 ac ychwanegwyd llawer o estyniadau ar hyd y blynyddoedd
Mae'r braslun yn dangos y capel yn 1851, ond mae bron yn amhosibl ei adnabod o edrych ar ei ddiwyg heddiw
Mae'r fynwent yn cynnwys beddau llawer o'r teuluoedd lleol o’r pen hwn i'r pentref
Holly Cottages
Mae rhai wedi awgrymu mai Holly Cottages yw'r tai hynaf sy'n dal i sefyll yn rhan isaf y pentref. Byddai'r ddau dŷ presennol gyda’u ffenestri modern a tho o lechi wedi bod yn wahanol iawn bryd hynny. Efallai mai to gwellt, waliau gwyngalchog a ffenestri codi bychain fyddai ganddynt, neu dri bwthyn bach o bosibl.
Yn 1851, roedd Phillip Williams yn 40 oed, ac yn byw yn Holly Cottages gyda'i wraig a'i deulu ifanc. Roedd ei dad (Phillip hefyd) yn 70 oed yn byw yno hefyd. Roedd gan Phillip frawd sef William, ac roedd yntau hefyd yn byw yn y bwthyn gyda'i fab, hefyd o'r enw William (sefyllfa ddryslyd iawn)
Bu'r teulu Williams yn byw yn Holly Cottages am y 70 mlynedd nesaf
Bryn Glas
Fferyllydd wedi ymddeol yn 1851 oedd William Vachell pan adeiladodd Bryn Glas yn gartref iddo ar gyfer ei ymddeoliad
Mae'r cyfan wedi mynd nawr, ond mae'n rhaid ei fod wedi bod yn blasty gwych i ŵr gweddw 62 oed. Roedd howsgiper a dau arall yn gofalu amdano. Roedd y gerddi yn eang ac wedi eu tirlunio, ac yn estyn yr holl ffordd i lawr at y Philog
Erbyn 1861, â William wedi marw, daeth peiriannydd o’r enw William Bedlington a'i deulu i fyw yno yn ei le. Roedd y teulu yno tan 1891
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y tŷ wedi mynd â’i ben iddo a chafodd ei ddymchwel yn y diwedd. Erbyn hyn, fflatiau Retford Court sy’n sefyll ar safle Bryn Glas
Ty'r Hen Povey
Roedd John Povey yn 69 oed pan symudodd i'r Eglwys Newydd yn 1861. Roedd y bwthyn yn sylweddol a'r ardd yn enfawr. Roedd hyn yn wych i arddwr masnachol a'i deulu estynedig o Berkshire
Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn dipyn o gymeriad, gan fod y tŷ a oedd yn sefyll ar ben bryn yng Ngwauntreoda wedi cael yr enw 'Old Povey's House' ac roedd yn enw a barhaodd hyd 1904
Nid yw'n hysbys pryd y cafodd y bwthyn ei ddymchwel, ond roedd fflatiau Philog Court gyda'i sgrin gyfarwydd o goncrit tyllog yn un o'r blociau cynharaf o fflatiau i gael ei adeiladu yn y pentref
Siop Baylis
Garddwr masnachol oedd Samuel Baylis yn enedigol o Wiltshire. Symudodd i Gwauntreoda yn yr 1870au gyda'i deulu a gwraig ifanc newydd (bu farw ei wraig gyntaf ychydig cynt). Roedd William, ei fab hynaf, hefyd yn arddwr masnachol ac roedd ganddo yntau deulu hefyd
Ymunodd dau o feibion William â'u tad yn y busnes, gan weithio yn y caeau y tu ôl i'r brif ffordd, mae’n debyg
Am gyfnod, roedd William Henry, mab hynaf William, yn lletya yn siop Gwauntreoda sef un o’r tai cyfagos, ac roedd yn gweithio fel pobydd
Ymhen amser, bu farw Sam a pharhaodd ei weddw, Elizabeth, a gweddill y teulu yn arddwyr masnachol, gan fyw drws nesaf i William Henry. Maes o law, daeth y siop yn eiddo i’r teulu Baylis, gydag Alf Baylis yn ei rhedeg yn y 1930au; dyma oedd y siop lysiau ar gyfer rhan isaf y pentref
Y Filog
Yn ôl y sôn, yn 1811, roedd yr enw Philog yn cyfeirio’n benodol at hen dŷ to gwellt ar ochr ogleddol y brif ffordd i'r Eglwys Newydd, lle mae heol yn fforchio i’r dwyrain i gyfeiriad y Mynydd Bychan
Safai'r rhes o fythynnod bychain ar y ffordd gul lle’r oedd becws Eddy ar un adeg. Mae’r enw Y Filog yn ymddangos ar ffurflenni cynharaf y cyfrifiad, ond mae unrhyw fanylion wedi mynd ar goll.
Mae'n ddigon posib mai'r braslun, sy’n seiliedig ar hen ffotograff, yw Y Filog
Ty Philog
Bu tŷ ar y gornel hon am o leiaf 200 mlynedd neu’n llawer hirach o bosibl.
Mae’r enw, Philog, yn mynd ar goll gydag amser, ac mae llawer o awgrymiadau rhyfedd wedi eu cynnig. Roedd tŷ sengl ar y llain o dir ar Fap y Degwm, gyda thai mas amrywiol
Gwelir Tŷ Philog ar ffurflenni'r cyfrifiadau cynnar a bu tenantiaid a pherchnogion niferus yma dros y blynyddoedd
Roedd un tenant, sef Henry Hopkins wedi symud i Dŷ Philog erbyn 1881. Ef oedd y Swyddog Cymorth ar gyfer yr ardal. Ei waith ef oedd rhannu budd-daliadau i aelodau tlotaf y plwyf
Mae llawer o bobl leol yn dal i gyfeirio at y tŷ fel 'Hopkins Corner', ac awgrymwyd bod arwyddion o ffenestr wedi'i chau i ffwrdd yn y tŷ o hyd lle deuai’r tlodion i ofyn am arian y plwyf
Sam Bennett, Adeiladwr
Adeiladwr a oedd yn hanu o Gernyw oedd Sam Bennett, ac ef fu’n gyfrifol am adeiladu llawer o'r tai yn y pentref. Pan fu farw, parhaodd ei feibion i redeg y busnes, gan godi llawer o'r tai ar ben pellaf Manor Way (yr A470 erbyn hyn)
Cododd y meibion y tŷ mawr ar y gornel ar gyfer eu mam, a’i enwi yn Manor House!
Y bechgyn oedd hefyd yn gyfrifol am godi’r adeilad o siâp anarferol gyferbyn â’r Philog, fel salon trin gwallt i'w chwaer, gyda fflat bach uwchben. Erbyn hyn mae’r adeilad wedi ei droi yn dŷ bychan
Plwca Halog
Nant y Philog yw’r ffin hanesyddol rhwng y Plwyf a thref Caerdydd. Mae bellach yn rhedeg trwy geuffos o dan y ffordd
Yn y gorffennol pell, roedd yma ardal wyllt ac agored, gyda dim ond llwybr garw yn rhedeg rhwng y pentref a'r dref fawr gyfagos
Yn ôl y sôn, mae Plwca Halog yn enw a aeth ar goll yn ardal yr Eglwys Newydd yn 1605. Ystyr yr enw yw llaid halogedig. Felly, a oedd y darn tir hwn yn halogedig? Efallai mai dyma leoliad cyffion neu grocbren y pentref?
Dim ond rhybudd i bobl ddiarth!
Difrod Rhyfel
Yn Ionawr 1941, gwelwyd llawer o fomio yng Nghaerdydd. Dyma ychydig o hanes y pentrefwyr:
"Roedden ni'n cael swper wrth y bwrdd yn yr ystafell fyw yn ein tŷ ni yn Violet Place pan ddechreuodd seiren y cyrchoedd awyr ganu. Yn sydyn daeth ergyd anferth ac aeth popeth yn ddu. Dwi'n cofio ein cymydog Tom, yn gweiddi ac yn gofyn a oedden ni i gyd yn iawn. Roedden ni wedi ein gorchuddio â rwbel ac roedd cefn y tŷ wedi dymchwel yn llwyr"
"Fe ddisgynnodd bom arall ar gornel Heol Wauntreoda, gan ddinistrio'r lle yn llwyr. Roedd fy nhad yn un o wardeiniaid y cyrchoedd awyr a chafodd ei chwythu i mewn i siop fara Eddy gyferbyn"
"Cawsom ein hebrwng i Eglwys Ararat dros nos, ac i Coryton Lodge drannoeth nes i ni allu dod o hyd i le i aros, fel y byddai pobl yn ei wneud adeg y rhyfel"
Fferm y Teulu Flay
Mae Fferm y teulu Flay wedi hen ddiflannu a thai wedi eu codi yno erbyn heddiw. Mae’n siŵr mai’r adeilad unigol a welwn heddiw yw'r cyfan sydd ar ôl
Ei henw gwreiddiol oedd Fferm Gwauntreoda, ond mae ei hanes cynnar yn anhysbys. Yn 1841 y gwelwn y cofnod cyntaf amdani, ond mae'n siŵr o fod yn llawer hŷn
Roedd y teulu Flay yn byw yma ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac yn ffermio'r tir deheuol i gyd. Ceffylau gwedd fyddai’n aredig ac yn tynnu'r wagenni adeg y cynhaeaf
Roedd gan y teulu gytundeb i gasglu'r holl sbwriel o dai'r pentrefwyr, a bydden nhw’n defnyddio'r un ceffylau gwedd a wagenni i wneud y gwaith. Roedd hyn yn olygfa gyfarwydd yn y pentref ar y pryd. Byddai’r sbwriel yn cael ei daflu i'r chwarel yn y Maendy (sef Stadiwm a Phwll Nofio Maendy erbyn hyn)
Comin yr Eglwys Newydd
Ni fu Comin yr Eglwys Newydd erioed yn dir comin, ond roedd yn rhan o 4 maenordy canoloesol a oedd yn cwrdd yma. Cyflwynwyd y tir yn rhodd i'r cyngor plwyf ar ddechrau'r 20fed ganrif
Ar un adeg roedd yn safle i Sipsiwn wersylla ac i gynnal ffeiriau. Daeth y comin yn bwysicach ym 1943, pan godwyd gwersyll yma am ychydig fisoedd i garfan o Fyddin yr Americanwyr pan oedden nhw’n paratoi at Ddiwrnod y Glanio. Mae llawer o’r trigolion hŷn yn dal i gofio'n annwyl am y cyfnod hwn
Prynwyd y coed sy’n ymlwybro ar hyd ochr y ffyrdd trwy rodd ariannol gan yr Americanwyr i ddangos eu gwerthfawrogiad o gynhesrwydd y croeso a gafodd y milwyr gan y pentrefwyr. Mae'r placiau coffa yn nodi hyn.
Vine Cottage
Nid yw Vine Cottage yn bodoli mwyach. Bwthyn to gwellt di-nod arall ydoedd, safai wrth ochr Nant yr Eglwys Newydd ar y safle lle mae iard y cyflenwyr adeiladwyr
Mae'r braslun yn dangos sut oedd Vine Cottage o bosibl yn edrych yn 1892 gyda waliau gwyngalchog a ffenestri bychain.
Roedd Vine Cottage yn gartref i Eli Evans, a restrwyd yng nghyfrifiad 1841 fel cerflunydd. Mae'n ymddangos mai saer meini coffa oedd Eli yn bennaf, a chynlluniodd lawer o'r cerrig beddau a’r cofebion o gwmpas y pentref, gan gynnwys beddrod teuluol y Bookers yn hen fynwent eglwys y Santes Fair
Mae wedi ei gladdu yng Nghapel Ararat gyferbyn, ond trist yw dweud nad oes carreg fedd i nodi’r fan.
Tafarn y Three Elms
Mae Tafarn y Three Elms wedi bod ar Gomin yr Eglwys Newydd ers y 18fed ganrif
Ar Fap y Degwm yn 1841 roedd Tafarn y Three Elms yn hen adeilad wedi ei osod ar ongl i'r ffordd, gan greu sgwâr anffurfiol. Mae'r braslun yn dangos sut olwg oedd ar yr hen dafarn yn 1892 yn ôl pob tebyg
Roedd gan y gof lleol ei efail wrth ochr y dafarn a'r nant
Yng nghanol y 19eg ganrif, ddwywaith y flwyddyn, fe gynhaliwyd sioe arddwriaeth boblogaidd iawn ar y sgwâr. Byddai Thomas Booker, y meistr haearn lleol yn ei noddi. Nid yw'n syndod felly fod nifer o wobrau'r sioe yn cael eu hennill gan arddwr Mr Booker ei hun!
English
Cymraeg