Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Pub walk
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Aenean commodo ligula eget dolor. Aenean massa.
Cum sociis natoque penatibus et magnis dis parturient montes, nascetur ridiculus mus. Donec quam felis, ultricies nec, pellentesque eu, pretium quis, sem.
Nulla consequat massa quis enim. Donec pede justo, fringilla vel, aliquet nec, vulputate eget, arcu. In enim justo, rhoncus ut, imperdiet a, venenatis vitae, justo.
Walk waymarkers
Y Fox and Hounds
Dyma ardal hynaf y 'pentref', a gellir olrhain ei hanes ers 4,000 o flynyddoedd. Mae'n cynnwys Treoda a hen eglwys y Santes Fair. 'Upper Village' ('Treoda Uchaf') oedd yr hen enw. Roedd Treoda ei hun yn domen hynafol - o bosibl yn gyrchfan yn yr Oes Efydd a’r Oes Haearn. Wedyn roedd yr ardal yn rhan o anheddiad Rhufeinig ac yna daeth yn ôl dan berchnogaeth Gymreig yn rhan o diroedd Arglwyddiaeth Senghennydd.
Mae’r sôn cynharaf am hen Eglwys y Santes Fair, gyferbyn â'r dafarn, yng nghofnod 'Dugiaeth Caerhirfryn' yn 1492. Adeiladwyd eglwys newydd yn yr 16eg ganrif, a dyma a ysgogodd yr enw cyfatebol Cymraeg, sef Eglwys Newydd.
Mae sôn am y dafarn mewn cofnod yn y flwyddyn 1833 a oedd wedi ei gadw gan Thomas Phillips yn yr ysgoldy, sef The Fox School. Yn Chwefror 1924 cynhaliwyd offeren yn yr ysgoldy, a dyma’r offeren gyntaf i gael ei chynnal yn yr Eglwys Newydd ers y Diwygiad.
Pan adeiladwyd Camlas Morgannwg (1795) o ganlyniad i lwyddiant gwaith tun Melingriffith, daeth yr ardal yn fwy cyfoethog. Roedd rhai o gartrefi mawr yr ardal yn cadw cŵn hela ar gyfer hela llwynogod, ac yn ôl y sôn, dyna oedd tarddiad enw’r dafarn.
Daeth y Fox and Hounds yn rhan o ymerodraeth fusnes Brains ym 1908 ac i bob pwrpas arhosodd felly tan i'r Marsdens gymryd meddiant arni ychydig flynyddoedd yn ôl.
Y Plough
Mae'r Plough wedi bod ar y safle hwn ers canol y 19eg ganrif. Mae cysylltiad diddorol rhwng enw’r dafarn a'i landlord cyntaf.
Ar ddiwedd yr 1840au, gof oedd Reuben Lewis, yn byw yn yr 'House Building' ar y gornel, gyda'i wraig, a'i deulu. Roedd ganddo efail brysur, ond roedd hefyd yn dipyn o ddyfeisiwr. Lluniodd aradr newydd gan ennill nifer o wobrau mewn sioeau lleol. Bu’n arddangos yn y Great Exhibition yn 1851 a llwyddodd i ennill gwobr!
Mae'n debyg bod Reuben yn bragu cwrw yn y tŷ, gan fod gwaith gof yn waith caled a sychedig; ac efallai ei fod yn gweini cwrw i'w gwsmeriaid hefyd! Nid syndod felly yw deall bod Reuben a'i deulu, yn 1861, yn byw mewn tafarn o'r enw 'The Plough', wedi ei henwi ar ôl ei ddyfais mae’n siŵr.
O dipyn i beth, adeiladodd Reuben 5 bwthyn y tu ôl i'r dafarn. Maen nhw'n dal yno heddiw, ond erbyn hyn, maen nhw'n rhan o fwyty a chegin y dafarn. Trist yw nodi nad oedd llwyddiant Reuben fel dyn busnes wedi para’n hir. Oherwydd dyledion, bu’n rhaid iddo werthu ei eiddo mewn arwerthiant yn 1864. Gwerthwyd y dafarn, y bragdy, yr efail a'r 5 bwthyn
Pan adawodd Reuben, daeth dyn o'r enw William Williams (ei lysenw oedd 'Bill Twice') yn berchennog ar y Plough
Ers y rhyfel mawr, bu'r Plough yn gweini cwrw gan amrywiol fragwyr - Bass, Hancock's ac yn ddiweddarach Brains. Yn anffodus, does dim arwydd o efail y gof erbyn hyn, ond mae Reuben a'i aradr newydd yn goroesi trwy gyfrwng yr enw sy’n parhau ar un o hoff dafarndai'r pentref
Y Royal Oak
Mae’n siŵr mai dyma'r dafarn leiaf yn y pentref - dim ond ystafell ffrynt ac ystafell gefn (a bar). Bwthyn ffrynt dwbl syml oedd yma i gychwyn yn 1861, ar ben pellaf teras hir o dai gyda'r Plough ar y pen arall.
Erbyn 1877, roedd wedi newid i fod yn dafarn go iawn, gyda George Roberts yn landlord arni. Y flwyddyn honno roedd yntau mewn trafferth gyda'r Fainc Drwyddedu
Roedd tafarndai ar gau ar y Sul, ond roedd Deddf Cau ar y Sul yng Nghymru yn rhoi hawl i deithwyr dilys fwyta neu yfed mewn tafarn ar yr amod eu bod yn byw o leiaf dair milltir i ffwrdd. Mae straeon doniol ym mhapurau newydd y cyfnod, am blismyn yn dod ar draws pobl yn yfed ar y Sul er mai dim ond ychydig ddrysau i ffwrdd roedden nhw’n byw! Er enghraifft, ar Sul, 17 Ionawr 1895, yn y Royal Oak, roedd 50 o bobl yno’n yfed yn gynnar gyda'r nos; a hynny ar ddiwrnod pan oedd y dafarn yn swyddogol ar gau!
Roedd yr ystafell gefn yn y Royal Oak yn boblogaidd ar gyfer cynnal cyfarfodydd. Byddai pwysigion a chrachach y gymdeithas leol yno’n fynych.
Rhwng y rhyfeloedd byd, adeiladwyd siop to gwastad i fferyllwyr (Ducks) yn yr ardd ffrynt, gyda dim ond hanner y dafarn wreiddiol yn weladwy o'r ffordd. Erbyn dechrau'r 1950au, Boots oedd y fferyllwyr oedd yn masnachu yno, yn y siop fechan wreiddiol
Mae'n siŵr mai yn y 1950au y rhoddwyd gwedd newydd i’r Royal Oak, gyda thalcen uchel a ffenestri plwm.
Erbyn y 1970au roedd popeth wedi newid. Roedd y siop fach wedi mynd, a Boots drws nesaf wedi dyblu o ran maint. Roedd yr holl fythynnod bach wedi eu dymchwel, a siopau mawr wedi cymryd eu lle
Beth nesaf i'r Royal Oak? Mae gan y dafarn reolwraig newydd, ac mae hi'n awyddus iawn i gymryd mwy o ran ym mywyd y gymuned. Yn y cyfamser, ewch ati i fwynhau'r dafarn fel lle difyr yng nghanol y pentref
Y Maltsters Arms
Mae'n debyg bod tafarn y Maltsters, sy’n sefyll heddiw, wedi ei chodi yn rhan olaf y 19eg ganrif, ond mae cyfeiriadau yn bodoli at dafarn lawer hŷn. Lle’r oedd hi? Doedd yna ddim lluniau i’n helpu. Er hynny, mae stori ddiddorol i'w hadrodd
Mae Map y Degwm yn dangos nad oedd llawer yn y cyffiniau. Roedd yr hen ffordd, bloc o fythynnod to gwellt hynafol, a'r hyn sy'n edrych fel adeilad amaethyddol yn rhedeg wrth ochr y ffordd. Dim byd arall!
Mae'r nodiadau sy'n cyd-fynd â’r map degwm yn nodi Hannah Johnson fel tenant yn 'The Malthouse'. Ymhle oedd hwnnw? Nid yw'r Cyfrifiad yn datgelu dim, ond erbyn 1851, mae Hannah Johnson wedi'i rhestru fel gweddw/tafarnwraig, sy'n byw yn y Maltsters Arms. Dyma enw newydd, ond ble'r oedd y dafarn?
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae erthygl papur newydd yn nodi mai Hannah Evans oedd y dafarnwraig erbyn hyn. Cynhaliodd 'housewarming' mawreddog i ddathlu, mewn pabell llawn blodau yn yr ardd gyfochrog gyda 120 o westeion yn bresennol
Efallai mai'r hen fwthyn to gwellt (sef y siop ddillad a welir yn yr hen ffotograff) oedd y dafarn wreiddiol?
Mae'r braslun yn dychmygu'r ardal tua 1850, gyda'r bwthyn to gwellt unllawr fel 'y Malthouse', dau fwthyn o’r tu ôl a 5 bwthyn arall ymhellach i ffwrdd. Digon hawdd yw dychmygu'r hen waliau cerrig, ffenestri pren bychain a drws planc i’r dafarn. Mae yno wal gerrig a ffordd amrwd; gwledig iawn
Mae'n debygol bod tafarn newydd wedi cael ei chodi 15 mlynedd yn ddiweddarach yn yr ardd gyfochrog, a bod yr enw 'Maltsters Arms' wedi ei ddefnyddio eto. Roedd yr hen dafarn yn dal i sefyll a chafodd ei throi yn siop ddillad
Erbyn 1865 Mary Phillips oedd y landlord, ac yna yn 1877 daeth Mr a Mrs Brinn yn landlordiaid, yn y dafarn newydd mae'n debyg.Dychmygol yw llawer iawn o’r stori hon, ond mae ambell i awgrym o wirionedd, onid oes?
English
Cymraeg