Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Heol Pantmawr
TAITH GERDDED GŴYL YR EGLWYS NEWYDD
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024
TAITH GERDDED AR HYD HEOL PANTMAWR: Ffordd Maenor i’r Hollybush
HEOL PANTMAWR
Dyma un o ffyrdd hynafol y porthmyn. Hyd at ddechrau'r 1930au, enw'r ffordd oedd Rhubina Road. Cafodd ei hestyn o'r Hollybush, tua'r dwyrain i'r Twmpath yn Rhiwbeina ac yna i fyny'r bryn i Fferm Rhiwbeina.
Wrth edrych tua'r dwyrain, y tu hwnt i'r A470, mae Heol Pantmawr yn parhau. Pentwyn Uchaf bellach yw cartref Clwb Golff Caerdydd (Eglwys Newydd). Gyferbyn â Mynwent Pantmawr a agorwyd yn 1923, a’r tu hwnt iddi, mae Ffermdy Ffynnon-wen. Ychydig cyn y Twmpath mae Pantmawr, sy’n fferm hynafol arall
ASHGROVE BARN
Dyma'r adeilad fferm sydd wedi'i beintio’n wyn, y gellir ei weld o'r A470. Nid hon yw’r hen fferm. Hen ysgubor ydyw, gyda buarth sy’n gyfochrog ag Ashgrove. Mae mynediad i'r buarth ar hyd yr heol hir i’r fferm. Yn gynnar yn y 1950au cafodd yr ysgubor ei throi'n gartref i’r teulu
ASHGROVE FARM
Ei henw gwreiddiol oedd Pentwyn Isaf. Mae'r ffermdy wedi'i guddio ac mae ychydig islaw Ashgrove Barn. Adeilad carreg sylweddol ydyw o ddau a thri llawr. Mae'r fferm yn gannoedd o flynyddoedd oed (cyfeirir ati gyntaf yn 1708). Yn ddiweddarach roedd ganddi 16 erw o dir a 7 cae, ac roedd yn rhan o Ystâd Tredegar. Gwerthwyd llawer o'r tir hwn fel rhan o Ashgrove Barn, ond cadwyd dwy erw o dir fel gardd
Y BYTHYNNOD
Adeiladwyd dau fwthyn ar wahân ar hyd heol y fferm ar ôl yr Ail Ryfel Byd; daeth Miss Wride o Ashgrove Farm i fyw yn un a Mr Morgan, sef prifathro'r ysgol ramadeg oedd newydd agor, i fyw yn y llall.
GERDDI TŶ CELYN
Yn yr 1980au, datblygwyd y 2 erw a oedd yn weddill o Ashgrove Farm gan adeiladu pum tŷ sengl crand. Un o'r trigolion cyntaf oedd Charlotte Church
PROVIDENCE PLACE
Yn 1808 adeiladwyd capel o'r enw Ebenezer ar y safle hwn. 60 mlynedd yn ddiweddarach codwyd capel newydd, oedd yn fwy o faint, sef y Tabernacl ym Mhentre'r Eglwys Newydd. Parhaodd Ebenezer fel Ysgol Sul am nifer o flynyddoedd ac yn ddiweddarach cafodd ei droi'n dri bwthyn sy’n sefyll hyd heddiw.
Y cyfrifydd Herbert Bevan oedd yn byw yn Holly Cottage, a Mr Llewellyn, gweithiwr tunplat oedd yn Rose Cottage. Mae Rhif 51 bellach yn gartref i 'Cake Expectations'!
Mae’r bwthyn cyfochrog wedi newid yn llwyr - roedd unwaith yn rhan o deras o chwech. Roedd un yn gartref i'r teulu Olson, a oedd yn paratoi cynhyrchion melys. Roeddent yn dal yno yn 1937
LLWYNCELYN
Wedi ei ddymchwel erbyn hyn, adeiladwyd Llwyncelyn fel tŷ urddasol tua 1900, ar ben pellaf rhodfa hir. Roedd yn gartref i Johnny Williams, un o wŷr rygbi enwocaf Cymru. Bu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym mrwydr Coedwig Mametz
Awgryma Ernie Broad fod Llwyncelyn wedyn yn gartref i’r teulu Mossford
Heddiw mae tri neu bedwar tŷ crand ar dir Llwyncelyn
TAI TERAS
Mae'n debyg bod y ddwy res o fythynnod teras wedi'u hadeiladu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Siop Edith Thomas yn gwerthu pob peth oedd Rhif 9. Crydd 23 oed oedd Simon Lewis yn atgyweirio esgidiau a George Heath yn 29 oed ac yn gweithio fel gof yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd
CORYTON RISE
Codwyd yr ystâd dai yma yn yr 1960au, ar dir a oedd yn perthyn i Ashgrove Barn. Am flynyddoedd lawer bu Coryton Rise yn gartref i Winston Griffiths a'i deulu. Mae Winston yn dal i gael ei gofio am gychwyn Gŵyl yr Eglwys Newydd. Yn fwy diweddar daeth yr ystâd yn enwog pan gwympodd hofrennydd yr heddlu ar ben un o'r tai (yn ffodus ni chafodd unrhyw un ei ladd!)
TŶ GWENITH
Yn wreiddiol roedd hwn yn dŷ sengl a gafodd ei adeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd John Griffiths yn byw yno yn 1902 pan fu farw ei fab yn 14 oed. Roedd John yn dal yno ugain mlynedd yn ddiweddarach
YR OCHR DDEHEUOL
Adeiladwyd y tai pâr sy'n wynebu Heol Pantmawr ar yr ochr ddeheuol yn bennaf yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd byd gan gontractwyr lleol. Tu ôl i'r tai mae Lon-y-Celyn a Heol Pantycelyn, a adeiladwyd yn ddiweddarach yn y ganrif
FERNHILL
Dyma gartref y Teulu Priday. Roedd Alun Priday, un arall o fawrion rygbi Cymru, yn byw yma gyda'i rieni yn y 1950au
HOLLYBUSH INN
Mae tystiolaeth gref fod Tafarn yr Hollybush yn gannoedd o flynyddoedd oed. Mae’r sôn cyntaf am y dafarn yn 1828, ond gan ei bod ar y ffordd dyrpeg (a agorwyd yn 1767) a bod yno stablau hefyd, mae’n bur debygol mai un o dafarnau’r goets fawr ydyw. Mae'n ymddangos ar fap Yates yn 1799.
Joseph Jones oedd y tafarnwr yn 1841, ac roedd ei fab-yng-nghyfraith yno ugain mlynedd yn ddiweddarach. Roedd ficer yr Eglwys Newydd yn lletywr yn y dafarn yn 1861.
HOLLYBUSH COTTAGE
Yn y pellter mae Hollybush Cottage. Mae’n un o nifer o fythynnod bach sy'n wynebu Pendwyallt (fe soniwyd amdano gyntaf yn 1712)
YSTÂD HOLLYBUSH
Adeiladwyd gan Gyngor Caerdydd yn y 1970au ar ôl i'r Eglwys Newydd ddod yn rhan o'r ddinas. Beech House yw'r bloc talaf yn yr ardal ac erbyn hyn mae’n dirnod lleol
FFERM LLWYN MALLT
Mae'r fferm hon a'i chaeau bellach ar goll o dan gyfnewidfa Cyffordd 32 yr M4. Y cyfan sydd ar ôl yw llwybr troed diddorol ochr yn ochr â Bwyty McDonalds yn Coryton
RHEILFFORDD CAERDYDD
Adeiladwyd gan y teulu Bute yn 1910 i ddod â glo o Gwm Rhondda i Ddociau Bute yng Nghaerdydd. Ni fu erioed yn llwyddiannus yn fasnachol, ond mae'n parhau i fod yn rhan hanfodol o'r system reilffyrdd leol, sydd bellach yn cael ei huwchraddio fel Metro Caerdydd.
FFERM TŶ CLYD
Tu hwnt i'r rheilffordd mae fferm hynafol Tŷ Clyd. Ar un adeg roedd yn eiddo i'r teulu Booker ac fe'i prynwyd yn ddiweddarach fel fferm Ysbyty’r Eglwys Newydd.
YR YSGUBOR DEGWM
I'r de ger mynedfa'r ysbyty, roedd yr hen Ysgubor Degwm. Roedd yn gannoedd o flynyddoedd oed pan gafodd ei dinistrio gan dân yn 1900.
English
Cymraeg